Hen Destament

Testament Newydd

Josua 20:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua:

2. “Dywed wrth bobl Israel am ddewis y trefi lloches wnes i orchymyn i Moses ddweud wrthoch chi amdanyn nhw.

3. Bydd unrhyw un sy'n lladd person yn ddamweiniol yn gallu dianc yno. Bydd un o'r trefi yma yn lle saff i ddianc oddi wrth y perthynas sydd am ddial.

4. Dylai'r un sydd wedi lladd rhywun trwy ddamwain, ddianc i un o'r trefi yma, a mynd i'r llys wrth giât y dref i gyflwyno ei achos i'r arweinwyr yno. Yna byddan nhw'n gadael iddo fynd i mewn i'r dref i fyw.

5. A pan fydd y perthynas sydd â'r hawl i ddial yn dod ar ei ôl, dylen nhw wrthod ei roi iddo, am mai damwain oedd yr hyn ddigwyddodd – doedd e ddim wedi bwriadu lladd.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 20