Hen Destament

Testament Newydd

Josua 2:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Josua fab Nwn yn anfon dau ysbïwr allan o'r gwersyll yn Sittim, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi ddarganfod beth allwch chi am y wlad, yn arbennig tref Jericho.” Felly, i ffwrdd a nhw, a dyma nhw'n mynd i dŷ putain o'r enw Rahab, ac aros yno dros nos.

2. Ond dyma rhywun yn dweud wrth frenin Jericho, “Mae rhai o ddynion Israel wedi dod yma i ysbïo'r wlad.”

3. Felly dyma'r brenin yn anfon milwyr at Rahab, “Tyrd â dy gwsmeriaid allan – y dynion sydd wedi dod i aros yn dy dŷ di. Ysbiwyr ydyn nhw, wedi dod i edrych dros y wlad.”

4. Ond roedd Rahab wedi cuddio'r dynion, a dyma hi'n ateb, “Mae'n wir, roedd yna ddynion wedi dod ata i, ond doeddwn i ddim yn gwybod o ble roedden nhw'n dod.

5. Pan oedd hi'n tywyllu, a giât y ddinas ar fin cael ei chau dros nos, dyma nhw'n gadael. Dw i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad aethon nhw. Os brysiwch chi, gallwch chi eu dal nhw!”

6. (Ond beth roedd Rahab wedi ei wneud go iawn oedd mynd â'r dynion i ben to'r tŷ, a'i cuddio nhw dan y pentyrrau o lin roedd hi wedi eu gosod allan yno.)

7. Felly dyma weision y brenin yn mynd i chwilio amdanyn nhw ar hyd y ffordd sy'n arwain at yr Afon Iorddonen, lle mae'r rhydau. A dyma giât y ddinas yn cael ei chau yn syth ar ôl iddyn nhw fynd.

8. Cyn i'r ysbiwyr fynd i gysgu'r noson honno, dyma Rahab yn mynd i fyny i'r to i siarad gyda nhw.

9. Meddai wrthyn nhw, “Dw i'n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD yn mynd i roi'r wlad yma i chi. Mae gan bawb eich ofn chi. Mae pawb yn ofni am eu bywydau.

10. Dŷn ni wedi clywed sut wnaeth yr ARGLWYDD sychu'r Môr Coch o'ch blaenau chi pan ddaethoch chi allan o'r Aifft. A hefyd, sut wnaethoch chi ddinistrio dau frenin yr Amoriaid, Sihon ac Og, yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.

11. Pan glywson ni am y peth roedden ni wedi digalonni'n llwyr. Roedd pawb mewn panig. Mae'r ARGLWYDD eich Duw chi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear!

Darllenwch bennod gyflawn Josua 2