Hen Destament

Testament Newydd

Josua 18:18-28 beibl.net 2015 (BNET)

18. Yna croesi i gyfeiriad y gogledd ar hyd y llethr sydd o flaen Dyffryn Iorddonen, cyn mynd i lawr i'r dyffryn ei hun.

19. Croesi wedyn at lethr Beth-hogla ac ymlaen i ben uchaf y Môr Marw wrth aber yr Afon Iorddonen. Dyna ffin y de.

20. Wedyn yr Afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain.Dyna ffiniau'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.

21. A dyma'r trefi oedd yn perthyn i lwyth Benjamin:Jericho, Beth-hogla, Emec-cetsits,

22. Beth-araba, Semaraïm, Bethel,

23. Afim, Para, Offra,

24. Ceffar-ammona, Offni a Geba – un deg dwy o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

25. Gibeon, Rama, Beëroth,

26. Mitspe, Ceffira, Motsa,

27. Recem, Irpeël, Tarala,

28. Sela, Eleff, tref y Jebwsiaid (sef, Jerwsalem), Gibea, a Ciriath – un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 18