14. Wedyn roedd yn troi o'r fan honno i'r de, ar hyd ochr orllewinol y bryn ac i lawr i Ciriath-baal (sef Ciriath-iearim) un o'r trefi oedd ar dir llwyth Jwda. Dyna'r ffin i'r gorllewin.
15. Yna roedd ffin y de yn dechrau wrth Ciriath-iearim, ac yn rhedeg i gyfeiriad Ffynnon Nefftoach.
16. Wedyn roedd y ffin yn mynd i lawr at droed y mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom sydd wrth ben gogleddol Dyffryn Reffaïm. Yna i lawr Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o Jerwsalem, ac ymlaen i En-rogel.
17. O En-rogel roedd yn troi i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i En-shemesh ac yna i Geliloth sydd gyferbyn â Bwlch Adwmim, yna i lawr at Garreg Bohan (mab Reuben).
18. Yna croesi i gyfeiriad y gogledd ar hyd y llethr sydd o flaen Dyffryn Iorddonen, cyn mynd i lawr i'r dyffryn ei hun.
19. Croesi wedyn at lethr Beth-hogla ac ymlaen i ben uchaf y Môr Marw wrth aber yr Afon Iorddonen. Dyna ffin y de.
20. Wedyn yr Afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain.Dyna ffiniau'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.
21. A dyma'r trefi oedd yn perthyn i lwyth Benjamin:Jericho, Beth-hogla, Emec-cetsits,
22. Beth-araba, Semaraïm, Bethel,
23. Afim, Para, Offra,
24. Ceffar-ammona, Offni a Geba – un deg dwy o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
25. Gibeon, Rama, Beëroth,
26. Mitspe, Ceffira, Motsa,