Hen Destament

Testament Newydd

Josua 18:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Seilo, ac yn codi Pabell Presenoldeb Duw. Er eu bod nhw'n rheoli'r wlad,

2. roedd saith o'r llwythau yn dal heb gael eu tir.

3. A dyma Josua yn dweud wrth bobl Israel, “Am faint mwy dych chi'n mynd dindroi cyn cymryd y tir mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ei roi i chi?

4. Dewiswch dri dyn o bob llwyth. Dw i am eu hanfon nhw i grwydro'r wlad, ei mapio a gwneud arolwg llawn ohoni.

5. Byddan nhw'n ei rhannu yn saith ardal. Ond fydd hyn ddim yn cynnwys tir Jwda i lawr yn y de, na tir Joseff yn y gogledd.

6. Mapiwch y tir a'i rannu yn saith ardal wahanol, a dewch ag e i mi. Wedyn bydda i yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, i ddewis pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.

7. Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o'r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i'r Afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 18