9. Wedyn roedd ffin y de yn dilyn Dyffryn Cana. Roedd trefi yno, yng nghanol trefi Manasse, oedd wedi cael eu rhoi i lwyth Effraim. Ond roedd ffin Manasse yn mynd ar hyd ochr ogleddol y dyffryn, at y môr.
10. Tir Effraim oedd i'r de o'r ffin, a Manasse i'r gogledd. Môr y Canoldir oedd ffin Manasse i'r gorllewin. Yna roedd eu tir yn ffinio gyda llwyth Asher i'r gogledd ac Issachar i'r dwyrain.
11. Ac roedd rhai trefi o fewn ffiniau Asher ac Issachar, gyda'r pentrefi o'u cwmpas, wedi eu rhoi i lwyth Manasse: Beth-shean, Ibleam, Dor, En-dor, Taanach, a Megido, (Naffeth ydy'r drydedd yn y rhestr).
12. Ond wnaeth dynion Manasse ddim llwyddo i goncro'r trefi yma. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud.
13. Yn ddiweddarach, pan oedd Israel yn gryfach, dyma nhw yn llwyddo i orfodi'r Canaaneaid i weithio fel caethweision iddyn nhw. Ond wnaethon nhw erioed lwyddo i'w gyrru nhw allan yn llwyr.
14. Dyma ddisgynyddion Joseff yn gofyn i Josua, “Pam wyt ti wedi rhoi cyn lleied o dir i ni? – dim ond un rhandir. Mae yna lot fawr ohonon ni, a diolch i'r ARGLWYDD dŷn ni'n dal i dyfu.”
15. Dyma Josua'n dweud, “Os oes cymaint a hynny ohonoch chi, a bryniau Effraim yn rhy fach, ewch i'r goedwig a chlirio lle i fyw yno, yn ardal y Peresiaid a'r Reffaiaid.”
16. Ond dyma nhw'n ateb, “Fyddai'r bryniau yna i gyd ddim digon, ac allwn ni ddim mynd i lawr i'r dyffryn – mae gan y Canaaneaid sy'n byw yn ardal Beth-shean a Dyffryn Jesreel, gerbydau rhyfel haearn.”