Hen Destament

Testament Newydd

Josua 17:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r tir gafodd ei roi i lwyth Manasse, mab hynaf Joseff. (Roedd ardaloedd Gilead a Bashan, i'r dwyrain o Afon Iorddonen, eisoes wedi eu rhoi i ddisgynyddion Machir – tad Gilead a mab hynaf Manasse – am ei fod yn filwr dewr.)

2. Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Manasse dir oedd i'r gorllewin o Afon Iorddonen. Disgynyddion Abieser, Chelec, Asriel, Sechem, Cheffer, a Shemida. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Manasse, mab Joseff.

3. Ond doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. (Cheffer oedd yn fab i Gilead, yn ŵyr i Machir ac yn or-ŵyr i Manasse.) Enwau merched Seloffchad oedd Machla, Noa, Hogla, Milca, a Tirtsa.

4. Dyma nhw'n mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn, a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses am roi tir i ni gyda'n perthnasau.” Felly dyma Josua yn rhoi tir iddyn nhw gyda brodyr eu tad, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.

5. Cafodd Manasse ddeg darn o dir yn ychwanegol at Gilead a Bashan oedd i'r dwyrain o Afon Iorddonen,

6. am fod merched o lwyth Manasse wedi cael tir gyda'r meibion. (Roedd tir Gilead yn perthyn i weddill disgynyddion Manasse.)

7. Roedd tir Manasse yn ymestyn o'r ffin gyda llwyth Asher yn y gogledd, i Michmethath wrth ymyl Sichem. Yna roedd yn mynd yn bellach i'r de at y bobl oedd yn byw yn En-tappŵach.

8. (Roedd yr ardal o gwmpas Tappŵach yn perthyn i lwyth Manasse, ond tref Tappŵach ei hun, oedd ar ffin Manasse yn perthyn i lwyth Effraim.)

9. Wedyn roedd ffin y de yn dilyn Dyffryn Cana. Roedd trefi yno, yng nghanol trefi Manasse, oedd wedi cael eu rhoi i lwyth Effraim. Ond roedd ffin Manasse yn mynd ar hyd ochr ogleddol y dyffryn, at y môr.

10. Tir Effraim oedd i'r de o'r ffin, a Manasse i'r gogledd. Môr y Canoldir oedd ffin Manasse i'r gorllewin. Yna roedd eu tir yn ffinio gyda llwyth Asher i'r gogledd ac Issachar i'r dwyrain.

11. Ac roedd rhai trefi o fewn ffiniau Asher ac Issachar, gyda'r pentrefi o'u cwmpas, wedi eu rhoi i lwyth Manasse: Beth-shean, Ibleam, Dor, En-dor, Taanach, a Megido, (Naffeth ydy'r drydedd yn y rhestr).

Darllenwch bennod gyflawn Josua 17