Hen Destament

Testament Newydd

Josua 14:5-15 beibl.net 2015 (BNET)

5. Felly dyma bobl Israel yn rhannu'r tir yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

6. Pan oedden nhw yn Gilgal, dyma ddynion o lwyth Jwda yn mynd i weld Josua. Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad oedd yn siarad ar eu rhan, ac meddai, “Ti'n cofio beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, dyn Duw, amdanon ni'n dau, yn Cadesh-barnea.

7. Pedwar deg oed oeddwn i pan anfonodd Moses fi o Cadesh-barnea i ysbïo ar y wlad. A dyma fi'n rhoi adroddiad cwbl onest iddo pan ddes i yn ôl.

8. Roedd y dynion eraill aeth gyda ni wedi dychryn y bobl a gwneud iddyn nhw ddigalonni. Ond roeddwn i wedi aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD fy Nuw.

9. A'r diwrnod hwnnw dyma Moses yn addo ar lw: ‘Bydd y tir lle buoch chi'n cerdded yn cael i roi i ti a dy deulu am byth, am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD dy Dduw.’

10. Ac mae'r ARGLWYDD wedi cadw ei addewid. Dyma fi, yn dal yn fyw, bedwar deg pum mlynedd yn ddiweddarach. Dyna faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i'r ARGLWYDD siarad â Moses pan oedd pobl Israel yn crwydro yn yr anialwch. Dw i'n wyth deg pum mlwydd oed bellach,

11. ac yn dal mor gryf ac oeddwn i pan anfonodd Moses fi allan! Dw i'n dal i allu ymladd a gwneud popeth roeddwn i'n ei wneud bryd hynny.

12. Felly rho i mi'r bryniau wnaeth yr ARGLWYDD ei haddo i mi. Mae'n siŵr y byddi'n cofio fod disgynyddion Anac yn byw yno, mewn trefi caerog mawr. Ond gyda help yr ARGLWYDD bydda i'n cael gwared â nhw, fel gwnaeth yr ARGLWYDD addo.”

13. Felly dyma Josua yn bendithio Caleb fab Jeffwnne, a rhoi tref Hebron iddo.

14. Mae disgynyddion Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad yn dal i fyw yn Hebron hyd heddiw, am ei fod wedi bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, Duw Israel.

15. Yr hen enw ar Hebron oedd Ciriath-arba, wedi ei enwi ar ôl Arba oedd yn un o arwyr yr Anaciaid.Ac roedd heddwch yn y wlad.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 14