Hen Destament

Testament Newydd

Josua 1:6-15 beibl.net 2015 (BNET)

6. Bydd yn gryf a dewr. Ti'n mynd i arwain y bobl yma i goncro'r wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid.

7. Ond rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn! Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth mae'r Gyfraith roddodd Moses i ti yn ei ddweud. Paid crwydro oddi wrthi o gwbl, a byddi di'n llwyddo beth bynnag wnei di.

8. Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a'i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae'n ei ddweud. Dyna sut fyddi di'n llwyddo.

9. Dw i'n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na panicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o'r ffordd!”

10. Felly dyma Josua yn rhoi'r gorchymyn yma i arweinwyr y llwythau:

11. “Ewch drwy'r gwersyll a dweud wrth bawb i gael eu hunain yn barod. Y diwrnod ar ôl yfory dych chi'n mynd i groesi'r Afon Iorddonen, a dechrau concro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.”

12. Yna dyma Josua yn troi at lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse, a dweud:

13. “Cofiwch beth ddwedodd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wrthoch chi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi'r tir yma, sydd i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, i chi setlo i lawr arno.

14. Gall eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid aros yma, ar y tir yma roddodd Moses i chi. Ond rhaid i bob dyn sy'n gallu ymladd groesi'r afon o flaen gweddill eich brodyr, yn barod i frwydro gyda nhw. Rhaid i chi aros i'w helpu nhw

15. nes bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi lle iddyn nhw setlo hefyd, a'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw wedi ei goncro. Wedyn cewch groesi'n ôl i'r tir wnaeth Moses ei roi i chi, i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 1