Hen Destament

Testament Newydd

Jona 4:4-9 beibl.net 2015 (BNET)

4. Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy'n iawn i ti wylltio fel yma?”

5. Dyma Jona'n mynd allan o'r ddinas i gyfeiriad y dwyrain, ac eistedd i lawr. Gwnaeth loches iddo'i hun, ac eistedd yn ei gysgod, yn disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd i Ninefe.

6. A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i blanhigyn bach dyfu uwch ben Jona. Roedd i gysgodi drosto, i'w gadw rhag bod yn rhy anghyfforddus. Roedd Jona wrth ei fodd gyda'r planhigyn.

7. Ond yn gynnar iawn y bore wedyn dyma Duw yn anfon pryfyn i ymosod ar y planhigyn, a dyma fe'n gwywo.

8. Yna yn ystod y dydd dyma Duw yn anfon gwynt poeth o'r dwyrain. Roedd yr haul mor danbaid nes bod Jona bron llewygu. Roedd e eisiau marw, a dyma fe'n gweiddi, “Byddai'n well gen i farw na byw!”

9. Ond dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy'n iawn i ti fod wedi gwylltio fel yma o achos planhigyn bach?” Ac meddai Jona, “Ydy, mae yn iawn. Dw i yn wyllt!”

Darllenwch bennod gyflawn Jona 4