Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Jona 3 beibl.net 2015 (BNET)

Jona'n mynd i Ninefe

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jona unwaith eto.

2. “Dos i ddinas fawr Ninefe ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi'r neges dw i'n ei rhoi i ti.”

3. Y tro yma dyma Jona'n gwneud hynny, fel roedd yr ARGLWYDD eisiau, a mynd yn syth i Ninefe. (Roedd Ninefe yn ddinas anferth. Roedd hi'n cymryd tri diwrnod i gerdded trwyddi!)

4. Ar ôl cerdded trwyddi am ddiwrnod, dyma Jona'n cyhoeddi, “Mewn pedwar deg diwrnod bydd dinas Ninefe yn cael ei dinistrio!”

5. Dyma bobl Ninefe yn credu neges Duw. A dyma nhw'n galw ar bawb i ymprydio (sef peidio bwyta) ac i wisgo sachliain – y bobl gyfoethog a'r tlawd.

6. Pan glywodd brenin Ninefe am y peth, dyma fe hyd yn oed yn codi o'i orsedd, tynnu ei wisg frenhinol i ffwrdd, rhoi sachliain amdano, ac eistedd mewn lludw.

7-8. Wedyn dyma fe'n gwneud datganiad cyhoeddus: “Dyma mae'r brenin a'i swyddogion yn ei orchymyn:Does neb o bobl Ninefe i fwyta nac yfed (na'r anifeiliaid chwaith – gwartheg na defaid.)Rhaid i bawb wisgo sachliain. A dylid hyd yn oed rhoi sachliain ar yr anifeiliaid.Mae pawb i weddïo'n daer ar Dduw, a stopio gwneud drwg a bod mor greulon.

9. Pwy a ŵyr? Falle y bydd Duw yn newid ei feddwl ac yn stopio bod mor ddig gyda ni, a bydd dim rhaid i ni farw.”

10. Pan welodd Duw eu bod nhw wedi stopio gwneud y pethau drwg roedden nhw'n arfer eu gwneud, wnaeth e ddim eu cosbi nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud cyn hynny.