Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Jona 2 beibl.net 2015 (BNET)

Jona yn gweddïo ar Dduw

1. Dyma Jona yn gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn.

2. Roeddwn i mewn trafferthion,a dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD,a dyma fe'n fy ateb i.Dyma fi'n gweiddi am dy help di,o ganol byd y meirw,a dyma ti'n gwrando arna i!

3. Teflaist fi i'r dyfnder;i waelod y môr.Roedd y cerrynt o'm cwmpas,a'r tonnau mawr yn torri uwch fy mhen.

4. Ro'n i'n meddwl fy mod i wedi caelfy ysgubo i ffwrdd gen ti am byth,ac y byddwn i byth yn cael gwelddy deml sanctaidd di eto!

5. Roeddwn i bron boddi –roedd y môr dwfn o'm cwmpas,a gwymon wedi lapio am fy mhen.

6. Roeddwn i wedi suddoat waelod isa'r mynyddoedd.Roedd giatiau Byd y Meirwwedi cloi tu ôl i mi am byth.Ond dyma ti, ARGLWYDD Dduw,yn fy achub i o'r Pwll dwfn.

7. Pan oedd fy mywyd yn llithro i ffwrdd,dyma fi'n galw arnat ti, ARGLWYDD;a dyma ti'n gwrando ar fy ngweddio dy deml sanctaidd.

8. Mae'r rhai sy'n addoli eilunod diwerthyn troi cefn ar dy drugaredd di.

9. Ond dw i'n mynd i offrymu aberth i ti,a chanu mawl i ti'n gyhoeddus.Bydda i'n gwneud beth dw i wedi ei addo!Yr ARGLWYDD ydy'r un sy'n achub!

10. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y pysgodyn am chwydu Jona ar dir sych.