Hen Destament

Testament Newydd

Jona 1:14-17 beibl.net 2015 (BNET)

14. Felly dyma nhw'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O, plîs ARGLWYDD, paid gadael i ni farw o achos y dyn yma. Paid cosbi ni am wneud hyn iddo os ydy e'n ddieuog. Ti sydd wedi achosi hyn i gyd i ddigwydd.”

15. Yna dyma nhw'n gafael yn Jona a'i daflu i'r môr, a dyma'r storm yn tawelu.

16. Roedd hyn wedi gwneud i'r morwyr ofni'r ARGLWYDD go iawn, a dyma nhw'n addo ar lw y bydden nhw'n offrymu aberthau iddo.

17. A dyma'r ARGLWYDD yn anfon pysgodyn mawr i lyncu Jona. Roedd Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson.

Darllenwch bennod gyflawn Jona 1