Hen Destament

Testament Newydd

Joel 2:8-19 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dŷn nhw ddim yn baglu ar draws ei gilydd;mae pob un yn martsio'n syth yn ei flaen.Dydy saethau a gwaywffynddim yn gallu eu stopio.

9. Maen nhw'n rhuthro i mewn i'r ddinas,yn dringo dros y waliau,ac i mewn i'r tai.Maen nhw'n dringo i mewnfel lladron drwy'r ffenestri.

10. Mae fel petai'r ddaear yn crynu o'u blaenau,a'r awyr yn chwyrlïo.Mae'r haul a'r lleuad yn tywyllu,a'r sêr yn diflannu.

11. Mae llais yr ARGLWYDD yn taranuwrth iddo arwain ei fyddin.Mae eu niferoedd yn enfawr!Maen nhw'n gwneud beth mae'n ei orchymyn.Ydy, mae dydd yr ARGLWYDD yn ddiwrnod mawr;mae'n ddychrynllyd! – Pa obaith sydd i unrhyw un?

12. Ond dyma neges yr ARGLWYDD:“Dydy hi ddim yn rhy hwyr.Trowch yn ôl ata i o ddifri.Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau,a galaru am eich ymddygiad.

13. Rhwygwch eich calonnau,yn lle dim ond rhwygo eich dillad.”Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw!Mae e mor garedig a thrugarog;mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael,a ddim yn hoffi cosbi.

14. Pwy ŵyr? Falle y bydd e'n drugarog ac yn troi yn ôl.Falle y bydd e'n dewis bendithio o hyn ymlaen!Wedyn cewch gyflwyno offrwm o rawnac offrwm o ddiod i'r ARGLWYDD eich Duw!

15. Chwythwch y corn hwrdd yn Seion!Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn peidio bwyta;yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw.

16. Casglwch y bobl i gyd,a paratoi pawb i ddod at ei gilydd i addoli.Dewch a'r arweinwyr at ei gilydd.Dewch a'r plant yno, a'r babis bach.Dylai hyd yn oed y rhai sydd newydd briodi ddod –does neb i gadw draw!

17. Dylai'r offeiriaid, y rhai sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD,wylo o'r cyntedd i'r allor,a gweddïo fel hyn:“ARGLWYDD, wnei di faddau i dy bobl?Paid gadael i'r wlad yma droi'n destun sbort.Paid gadael i baganiaid ein llywodraethu ni!Pam ddylai pobl y gwledydd gael dweud,‘Felly, ble mae eu Duw nhw?’”

18. Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dangos ei sêl dros y wlad. Buodd yn drugarog at ei bobl.

19. Dyma fe'n dweud wrth ei bobl:“Edrychwch! Dw i'n mynd i'ch bendithio chi unwaith eto!Dw i'n mynd i roi cnydau da i chi,a digonedd o sudd grawnwin ac olew olewydd.Bydd gynnoch chi fwy na digon!Fyddwch chi ddim yn destun sborti'r gwledydd o'ch cwmpas chi.

Darllenwch bennod gyflawn Joel 2