31. Bydd yr haul yn troi'n dywyll,a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaedcyn i'r diwrnod mawr a dychrynllyd yna ddod,sef dydd barn yr ARGLWYDD.”
32. Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw'r ARGLWYDDyn cael ei achub.Fel mae'r ARGLWYDD wedi addo: “ar Fynydd Seion, sef Jerwsalem, bydd rhai yn dianc.” Bydd rhai o'r bobl yn goroesi –pobl wedi eu galw gan yr ARGLWYDD.