Hen Destament

Testament Newydd

Joel 2:23-31 beibl.net 2015 (BNET)

23. Dathlwch chithau, bobl Seion!Mwynhewch beth mae Duw wedi ei wneud!Mae wedi rhoi'r glaw cynnar i chi ar yr adeg iawn –rhoi'r glaw cynnar yn yr hydref,a'r glaw diweddar yn y gwanwyn, fel o'r blaen.

24. “Bydd y llawr dyrnu yn orlawn o ŷd,a'r cafnau yn gorlifo o sudd grawnwin ac olew olewydd.

25. Bydda i'n rhoi popeth wnaethoch chi ei golliyn ôl i chi – popeth wnaeth y locustiaid ei fwyta;y fyddin fawr wnes i ei hanfon yn eich erbyn chi.

26. Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta.Byddwch chi'n moli'r ARGLWYDD eich Duw,sydd wedi gwneud pethau mor wych ar eich rhan chi.Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.

27. Israel, byddi'n gwybod fy mod i gyda ti,ac mai fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw– yr unig Dduw sy'n bod.Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.”

28. “Ar ôl hynny, bydda i'n tywallt fy Ysbrydar y bobl i gyd.Bydd eich meibion a'ch merchedyn proffwydo;bydd dynion hŷn yn cael breuddwydion,a dynion ifanc yn cael gweledigaethau.

29. Bydda i hyd yn oed yn tywallt fy Ysbrydar y gweision a'r morynion.

30. Bydd pethau rhyfeddol yn digwyddyn yr awyr ac ar y ddaear –gwaed a thân a cholofnau o fwg.

31. Bydd yr haul yn troi'n dywyll,a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaedcyn i'r diwrnod mawr a dychrynllyd yna ddod,sef dydd barn yr ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn Joel 2