Hen Destament

Testament Newydd

Joel 2:12-19 beibl.net 2015 (BNET)

12. Ond dyma neges yr ARGLWYDD:“Dydy hi ddim yn rhy hwyr.Trowch yn ôl ata i o ddifri.Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau,a galaru am eich ymddygiad.

13. Rhwygwch eich calonnau,yn lle dim ond rhwygo eich dillad.”Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw!Mae e mor garedig a thrugarog;mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael,a ddim yn hoffi cosbi.

14. Pwy ŵyr? Falle y bydd e'n drugarog ac yn troi yn ôl.Falle y bydd e'n dewis bendithio o hyn ymlaen!Wedyn cewch gyflwyno offrwm o rawnac offrwm o ddiod i'r ARGLWYDD eich Duw!

15. Chwythwch y corn hwrdd yn Seion!Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn peidio bwyta;yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw.

16. Casglwch y bobl i gyd,a paratoi pawb i ddod at ei gilydd i addoli.Dewch a'r arweinwyr at ei gilydd.Dewch a'r plant yno, a'r babis bach.Dylai hyd yn oed y rhai sydd newydd briodi ddod –does neb i gadw draw!

17. Dylai'r offeiriaid, y rhai sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD,wylo o'r cyntedd i'r allor,a gweddïo fel hyn:“ARGLWYDD, wnei di faddau i dy bobl?Paid gadael i'r wlad yma droi'n destun sbort.Paid gadael i baganiaid ein llywodraethu ni!Pam ddylai pobl y gwledydd gael dweud,‘Felly, ble mae eu Duw nhw?’”

18. Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dangos ei sêl dros y wlad. Buodd yn drugarog at ei bobl.

19. Dyma fe'n dweud wrth ei bobl:“Edrychwch! Dw i'n mynd i'ch bendithio chi unwaith eto!Dw i'n mynd i roi cnydau da i chi,a digonedd o sudd grawnwin ac olew olewydd.Bydd gynnoch chi fwy na digon!Fyddwch chi ddim yn destun sborti'r gwledydd o'ch cwmpas chi.

Darllenwch bennod gyflawn Joel 2