Hen Destament

Testament Newydd

Joel 2:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Chwythwch y corn hwrdd yn Seion;Rhybuddiwch bobl o ben y mynydd cysegredig!Dylai pawb sy'n byw yn y wlad grynu mewn ofn,am fod dydd barn yr ARGLWYDD ar fin dod.Ydy, mae'n agos!

2. Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy;diwrnod o gymylau duon bygythiol.Mae byddin enfawr yn dod dros y bryniau.Does dim byd tebyg wedi digwydd erioed o'r blaen,a welwn ni ddim byd tebyg byth eto.

3. Mae fflamau tân o'u cwmpas,yn dinistrio popeth sydd yn eu ffordd.Mae'r wlad o'u blaenau yn ffrwythlon fel Gardd Eden,ond tu ôl iddyn nhw mae fel anialwch diffaith.Does dim posib dianc!

4. Maen nhw'n edrych fel ceffylau,ac yn carlamu fel meirch rhyfel.

5. Maen nhw'n swnio fel cerbydau rhyfelyn rhuthro dros y bryniau;fel sŵn clecian fflamau'n llosgi bonion gwellt,neu sŵn byddin enfawr yn paratoi i ymosod.

6. Mae pobl yn gwingo mewn panig o'u blaenau;mae wynebau pawb yn troi'n welw o ofn.

7. Fel tyrfa o filwyr, maen nhw'n martsioac yn dringo i fyny'r waliau.Maen nhw'n dod yn rhesi disgybledigdoes dim un yn gadael y rhengoedd.

8. Dŷn nhw ddim yn baglu ar draws ei gilydd;mae pob un yn martsio'n syth yn ei flaen.Dydy saethau a gwaywffynddim yn gallu eu stopio.

9. Maen nhw'n rhuthro i mewn i'r ddinas,yn dringo dros y waliau,ac i mewn i'r tai.Maen nhw'n dringo i mewnfel lladron drwy'r ffenestri.

10. Mae fel petai'r ddaear yn crynu o'u blaenau,a'r awyr yn chwyrlïo.Mae'r haul a'r lleuad yn tywyllu,a'r sêr yn diflannu.

11. Mae llais yr ARGLWYDD yn taranuwrth iddo arwain ei fyddin.Mae eu niferoedd yn enfawr!Maen nhw'n gwneud beth mae'n ei orchymyn.Ydy, mae dydd yr ARGLWYDD yn ddiwrnod mawr;mae'n ddychrynllyd! – Pa obaith sydd i unrhyw un?

12. Ond dyma neges yr ARGLWYDD:“Dydy hi ddim yn rhy hwyr.Trowch yn ôl ata i o ddifri.Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau,a galaru am eich ymddygiad.

13. Rhwygwch eich calonnau,yn lle dim ond rhwygo eich dillad.”Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw!Mae e mor garedig a thrugarog;mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael,a ddim yn hoffi cosbi.

14. Pwy ŵyr? Falle y bydd e'n drugarog ac yn troi yn ôl.Falle y bydd e'n dewis bendithio o hyn ymlaen!Wedyn cewch gyflwyno offrwm o rawnac offrwm o ddiod i'r ARGLWYDD eich Duw!

Darllenwch bennod gyflawn Joel 2