Hen Destament

Testament Newydd

Job 9:22-34 beibl.net 2015 (BNET)

22. ‘Does dim gwahaniaeth!’, dyna dw i'n ddweud,‘Mae e'n dinistrio'r di-fai a'r euog fel ei gilydd.’

23. Pan mae ei chwip yn dod â marwolaeth sydyn,mae e'n chwerthin ar anobaith y dieuog.

24. Mae'r tir wedi ei roi yn nwylo pobl ddrwg,ac mae Duw'n rhoi mwgwd dros lygaid ei barnwyr.Os nad fe sy'n gwneud hyn, yna pwy sydd?

25. Mae dyddiau fy mywyd yn mynd heibio'n gynt na rhedwr;yn rhuthro i ffwrdd heb i mi weld hapusrwydd.

26. Maen nhw'n llithro heibio fel cychod brwyn,neu fel eryr yn disgyn ar ei ysglyfaeth.

27. Os dweda i, ‘Dw i'n mynd i stopio cwyno,dw i am wenu a bod yn hapus,’

28. dw i'n dychryn wrth feddwl beth fydda i'n ei ddiodde nesa.Dw i'n gwybod wnei di ddim gadael i mi fynd!

29. Dw i'n cael fy nghyfri'n euog beth bynnag,felly beth ydy'r pwynt ymdrechu?

30. Petawn i'n ymolchi â sebon,ac yn sgwrio fy nwylo â soda,

31. byddet ti'n fy suddo mewn carthionnes bod hyd yn oed fy nillad yn ffiaidd i mi.

32. Nid creadur dynol fel fi ydy Duw, felly alla i ddim dweud,‘Gad i ni fynd i gyfraith!’

33. O na fyddai canolwr rhyngon ni,i osod ei law ar y naill a'r llall ohonon ni!

34. Rhywun i symud gwialen Duw oddi arna ifel bod dim rhaid i mi ddychryn ac arswydo o'i flaen.

Darllenwch bennod gyflawn Job 9