Hen Destament

Testament Newydd

Job 9:13-26 beibl.net 2015 (BNET)

13. Duw ydy e, a dydy e ddim yn atal ei ddigofaint;Mae helpwyr bwystfil y môr wedi eu bwrw i lawr.

14. Felly pa obaith sydd i mi ei ateb,a dod o hyd i ddadleuon yn ei erbyn?

15. Er fy mod i'n ddieuog, alla i mo'i ateb,dim ond pledio am drugaredd gan fy Marnwr.

16. Hyd yn oed petai'n ymateb i'm gwŷs,allwn i ddim bod yn siŵr y byddai'n gwrando arna i –

17. oherwydd mae'n fy sathru i am y nesa peth i ddim,ac wedi fy anafu drosodd a throsodd am ddim rheswm.

18. Dydy e ddim yn rhoi cyfle i mi ddal fy ngwynt,dim ond fy llenwi â gwenwyn chwerw!

19. Os mai prawf cryfder ydy hyn – fe ydy'r Un cry!Os mai cwestiwn o bwy sy'n iawn – pwy sy'n mynd i'w alw e i'r llys?

20. Er fy mod i'n ddieuog, byddai fy ngeiriau'n fy nghondemnio i;Er fy mod i'n ddi-fai, byddai e'n dangos i mi fy mod yn euog.

21. Dydw i ddim ar fai,ond dw i'n poeni dim beth fydd yn digwydd i mi;dw i wedi cael llond bol ar fywyd!

22. ‘Does dim gwahaniaeth!’, dyna dw i'n ddweud,‘Mae e'n dinistrio'r di-fai a'r euog fel ei gilydd.’

23. Pan mae ei chwip yn dod â marwolaeth sydyn,mae e'n chwerthin ar anobaith y dieuog.

24. Mae'r tir wedi ei roi yn nwylo pobl ddrwg,ac mae Duw'n rhoi mwgwd dros lygaid ei barnwyr.Os nad fe sy'n gwneud hyn, yna pwy sydd?

25. Mae dyddiau fy mywyd yn mynd heibio'n gynt na rhedwr;yn rhuthro i ffwrdd heb i mi weld hapusrwydd.

26. Maen nhw'n llithro heibio fel cychod brwyn,neu fel eryr yn disgyn ar ei ysglyfaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Job 9