10. Mae'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni,a phethau rhyfeddol na ellir byth eu cyfrif.
11. Ond petai'n pasio heibio allwn i mo'i weld;mae'n symud yn ei flaen heb i mi sylwi.
12. Petai'n cymryd rhywbeth, pwy all ei stopio?Pwy fyddai'n meiddio dweud, ‘Beth wyt ti'n wneud?’
13. Duw ydy e, a dydy e ddim yn atal ei ddigofaint;Mae helpwyr bwystfil y môr wedi eu bwrw i lawr.
14. Felly pa obaith sydd i mi ei ateb,a dod o hyd i ddadleuon yn ei erbyn?
15. Er fy mod i'n ddieuog, alla i mo'i ateb,dim ond pledio am drugaredd gan fy Marnwr.
16. Hyd yn oed petai'n ymateb i'm gwŷs,allwn i ddim bod yn siŵr y byddai'n gwrando arna i –
17. oherwydd mae'n fy sathru i am y nesa peth i ddim,ac wedi fy anafu drosodd a throsodd am ddim rheswm.
18. Dydy e ddim yn rhoi cyfle i mi ddal fy ngwynt,dim ond fy llenwi â gwenwyn chwerw!
19. Os mai prawf cryfder ydy hyn – fe ydy'r Un cry!Os mai cwestiwn o bwy sy'n iawn – pwy sy'n mynd i'w alw e i'r llys?