1. Dyma Job yn ateb:
2. “Wrth gwrs, dw i'n gwybod fod hyn i gyd yn wir!Sut all person dynol fod yn gyfiawn o flaen Duw?
3. Er y carai rhywun ddadlau ei achos gydag e,fyddai rhywun ddim yn gallu ateb un o bob mil o'i gwestiynau!
4. Mae Duw mor ddoeth a grymus –Pwy sydd wedi ei herio a dod allan yn un darn?
5. Mae e'n symud mynyddoedd heb rybudd,ac yn eu bwrw wyneb i waered yn ei ddig.
6. Mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle,nes bod ei cholofnau'n crynu.
7. Mae'n rhoi gorchymyn i'r haul beidio tywynnu,ac yn cloi y sêr dan sêl.
8. Mae e'n lledu'r awyr,ac yn sathru tonnau'r môr.
9. Fe wnaeth yr Arth ac Orion,Pleiades a chlystyrau sêr y de.
10. Mae'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni,a phethau rhyfeddol na ellir byth eu cyfrif.
11. Ond petai'n pasio heibio allwn i mo'i weld;mae'n symud yn ei flaen heb i mi sylwi.
12. Petai'n cymryd rhywbeth, pwy all ei stopio?Pwy fyddai'n meiddio dweud, ‘Beth wyt ti'n wneud?’
13. Duw ydy e, a dydy e ddim yn atal ei ddigofaint;Mae helpwyr bwystfil y môr wedi eu bwrw i lawr.
14. Felly pa obaith sydd i mi ei ateb,a dod o hyd i ddadleuon yn ei erbyn?