7. O Dduw, cofia mai anadl ydy fy mywyd!Wna i ddim profi pleser byth eto.
8. Fydd y llygaid sy'n edrych arna i yn fy ngweld i ddim mwy;bydda i wedi diflannu mewn chwinciad.
9. Fel cwmwl yn chwalu ac yn diflannu,dydy'r un sy'n mynd i'r bedd byth yn dod yn ôl i fyny;
10. fydd e byth yn mynd adre eto;a fydd y lle roedd yn byw ddim yn ei gofio.
11. Felly, dw i ddim am gadw'n dawel!dw i'n mynd i rannu fy ngwewyr meddwl;dw i'n teimlo'n chwerw, a dw i'n mynd i gwyno.
12. Ai'r môr ydw i, neu anghenfil y dyfroedd,i ti orfod fy nghadw yn gaeth?
13. Pan dw i'n meddwl, ‘Bydd mynd i'r gwely'n gysur,a gorffwys yn gwneud i mi deimlo'n well,’
14. ti'n fy nychryn â breuddwydion,ac yn codi braw â hunllefau.
15. Byddai'n well gen i gael fy stranglo;mae marwolaeth yn well na bodolaeth.
16. Dw i wedi cael llond bol,does gen i ddim eisiau byw ddim mwy;Gad lonydd i mi, mae fy nyddiau'n mynd heibio fel mwg.
17. Beth ydy person dynol, i ti boeni amdano,a rhoi cymaint o sylw iddo?
18. Ti'n ei archwilio bob bore,ac yn ei brofi bob munud.