Hen Destament

Testament Newydd

Job 41:12-28 beibl.net 2015 (BNET)

12. Dw i ddim am fod yn dawel am ei goesau,ei gryfder, a'i gorff gosgeiddig.

13. Pwy sy'n gallu tynnu ei got oddi arno,neu drywanu ei arfwisg blethog?

14. Pwy sy'n gallu gwthio ei geg ar agor?Mae'r dannedd sydd o'i chwmpas yn frawychus.

15. Mae ei gefn fel rhesi o darianau,wedi eu cloi i'w gilydd gan sêl.

16. Mae un yn cyffwrdd y llall;maen nhw'n hollol dynn yn erbyn ei gilydd.

17. Maen nhw wedi glynu wrth ei gilydd,a does dim modd eu gwahanu nhw.

18. Mae'n fflachio mellt wrth disian.Mae ei lygaid fel pelydrau'r wawr.

19. Mae fflamau yn llifo o'i geg,a gwreichion yn tasgu ohoni.

20. Mae mwg yn dod allan o'i ffroenaufel crochan berw yn stemio.

21. Mae ei anadl yn cynnau marwor;ac mae fflamau'n dod allan o'i geg.

22. Mae ei wddf mor gryf,a nerth yn llamu allan o'i flaen.

23. Mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd;maen nhw'n dynn amdano, a does dim modd eu symud.

24. Mae ei galon yn galed fel y graig,yn solet fel maen melin.

25. Pan mae'n codi mae'r rhai cryfaf yn dychryn;wrth iddo gynhyrfu maen nhw'n camu'n ôl.

26. Dydy ei daro gyda'r cleddyf yn cael dim effaith,na gwaywffon, na saeth, na phicell.

27. Mae'n trin haearn fel gwellt,a phres fel pren wedi pydru.

28. Dydy saethau ddim yn gwneud iddo ffoi,ac mae cerrig tafl fel us yn ei olwg.

Darllenwch bennod gyflawn Job 41