Hen Destament

Testament Newydd

Job 40:4-17 beibl.net 2015 (BNET)

4. “Mae'n wir, dw i'n neb. Beth alla i ddweud?Dw i'n mynd i gadw'n dawel.

5. Dw i wedi siarad gormod, ac alla i ddim ateb eto.Dw i am ddweud dim mwy.”

6. Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud:

7. “Torcha dy lewys fel dyn!Gofynna i gwestiynau, a cei di ateb.

8. Wyt ti'n gwadu fy mod i'n Dduw cyfiawn?Wyt ti'n fy nghondemnio i er mwyn profi mai ti sy'n iawn?

9. Wyt ti mor gryf ag ydw i?Ydy dy lais di'n gallu taranu fel fy llais i?

10. Os felly, addurna dy hun ag anrhydedd a mawrhydi.Gwisga dy hun ag ysblander ac urddas.

11. Dangos i bawb mor ddig wyt ti;dos ar ôl y bobl falch, a'u rhoi nhw'n eu lle.

12. Dos ar ôl y bobl falch, a'u cywilyddio nhw;sathra'r rhai drwg yn y fan a'r lle!

13. Cladda nhw yn y llwch,a'u cloi nhw yn y bedd.

14. Gwna i gyfaddef wedyndy fod ti'n ddigon cryf i achub dy hun!

15. Edrych ar y Behemoth, a greais i fel y creais i ti;mae e'n bwyta glaswellt fel ychen.

16. Edrych mor gryf ydy ei gluniau,ac ar gryfder cyhyrau ei fol.

17. Mae'n codi ei gynffon fel coeden gedrwydd;mae gewynnau ei gluniau wedi eu gweu i'w gilydd.

Darllenwch bennod gyflawn Job 40