Hen Destament

Testament Newydd

Job 39:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. Wyt ti wedi cyfri'r misoedd tra maen nhw'n disgwyl?Wyt ti'n gwybod pryd yn union maen nhw'n geni rhai bach,

3. yn crymu wrth roi genedigaeth,ac yn bwrw eu brych?

4. Mae'r rhai bach yn tyfu'n iach, allan yng nghefn gwlad;yna'n gadael y fam, a byth yn dod yn ôl.

5. Pwy wnaeth ollwng yr asyn gwyllt,a datod ei ffrwyn iddo fynd yn rhydd?

6. Rhoi'r anialwch yn gartre iddo,a'r tir diffaith yn lle iddo fyw.

7. Y mae'n gwawdio twrw'r dre,ac yn fyddar i floedd unrhyw feistr.

8. Mae'n crwydro'r mynyddoedd am borfa,yn chwilio am laswellt i'w fwyta.

9. Fyddai'r ych gwyllt yn fodlon gweithio i ti,ac aros dros nos wrth gafn bwydo?

10. Alli di ei gadw yn y gwys gyda rhaff?Fydd e'n dy ddilyn ac yn trin y tir?

11. Alli di ddibynnu arno gan ei fod mor gryf,a gadael iddo wneud dy waith caled yn dy le?

12. Fyddet ti'n disgwyl iddo i ddod yn ôla chasglu dy rawn i'r llawr dyrnu?

13. Mae adenydd yr estrys yn ysgwyd yn llawen;ond does ganddi ddim plu i hedfan fel y garan!

14. Mae hi'n dodwy ei hwyau ar lawr,ac yn eu gadael i gynhesu ar y tywod,

15. heb feddwl y gallen nhw gael eu sathru,ac y gallai anifail gwyllt eu malu dan draed.

Darllenwch bennod gyflawn Job 39