18. Ond pan mae'n codi a dechrau rhedeg,mae'n chwerthin am ben y ceffyl a'i farchog!
19. Ai ti sy'n rhoi cryfder i geffyl?Ai ti wisgodd ei wddf â'r mwng?
20. Ai ti sy'n gwneud iddo neidio fel y locust,a chreu dychryn wrth weryru?
21. Mae'n curo llawr y dyffryn â'i garnau,ac yn rhuthro'n frwd i'r frwydr.
22. Does ganddo ddim ofn; does dim yn ei ddychryn;dydy e ddim yn cilio oddi wrth y cleddyf.
23. Mae llond cawell o saethau'n chwyrlïo heibio iddo,a'r waywffon a'r cleddyf yn fflachio.
24. Mae'n llawn cynnwrf, ac yn carlamu'n wyllt;mae'n methu aros yn llonydd pan mae'r corn hwrdd yn seinio.
25. Mae'n synhwyro'r frwydr o bell;mae'n gweryru wrth glywed y corn hwrdd,a gwaedd swyddogion yn bloeddio gorchmynion.
26. Ai dy ddoethineb di sy'n gwneud i'r hebog hedfan,a lledu ei adenydd i droi tua'r de?
27. Ai dy orchymyn di sy'n gwneud i'r fwltur hofran,a gosod ei nyth ar y creigiau uchel?
28. Mae'n byw ar y graig, lle mae'n treulio'r nos;mae'r clogwyn yn gaer ddiogel iddo.
29. Oddi yno mae'n chwilio am fwyd,ac yn syllu arno o bell;
30. bydd ei gywion yn llowcio gwaed.Ble mae corff marw, mae'r fwltur yno.”