14. Mae hi'n dodwy ei hwyau ar lawr,ac yn eu gadael i gynhesu ar y tywod,
15. heb feddwl y gallen nhw gael eu sathru,ac y gallai anifail gwyllt eu malu dan draed.
16. Mae'n trin ei chywion yn greulon,fel petaen nhw ddim yn perthyn iddi;dydy hi'n poeni dim y gallai ei llafur fod yn ofer.
17. Gadawodd Duw hi heb ddoethineb,roddodd e ddim mymryn o ddeall iddi.
18. Ond pan mae'n codi a dechrau rhedeg,mae'n chwerthin am ben y ceffyl a'i farchog!
19. Ai ti sy'n rhoi cryfder i geffyl?Ai ti wisgodd ei wddf â'r mwng?
20. Ai ti sy'n gwneud iddo neidio fel y locust,a chreu dychryn wrth weryru?
21. Mae'n curo llawr y dyffryn â'i garnau,ac yn rhuthro'n frwd i'r frwydr.
22. Does ganddo ddim ofn; does dim yn ei ddychryn;dydy e ddim yn cilio oddi wrth y cleddyf.
23. Mae llond cawell o saethau'n chwyrlïo heibio iddo,a'r waywffon a'r cleddyf yn fflachio.
24. Mae'n llawn cynnwrf, ac yn carlamu'n wyllt;mae'n methu aros yn llonydd pan mae'r corn hwrdd yn seinio.
25. Mae'n synhwyro'r frwydr o bell;mae'n gweryru wrth glywed y corn hwrdd,a gwaedd swyddogion yn bloeddio gorchmynion.