Hen Destament

Testament Newydd

Job 39:10-21 beibl.net 2015 (BNET)

10. Alli di ei gadw yn y gwys gyda rhaff?Fydd e'n dy ddilyn ac yn trin y tir?

11. Alli di ddibynnu arno gan ei fod mor gryf,a gadael iddo wneud dy waith caled yn dy le?

12. Fyddet ti'n disgwyl iddo i ddod yn ôla chasglu dy rawn i'r llawr dyrnu?

13. Mae adenydd yr estrys yn ysgwyd yn llawen;ond does ganddi ddim plu i hedfan fel y garan!

14. Mae hi'n dodwy ei hwyau ar lawr,ac yn eu gadael i gynhesu ar y tywod,

15. heb feddwl y gallen nhw gael eu sathru,ac y gallai anifail gwyllt eu malu dan draed.

16. Mae'n trin ei chywion yn greulon,fel petaen nhw ddim yn perthyn iddi;dydy hi'n poeni dim y gallai ei llafur fod yn ofer.

17. Gadawodd Duw hi heb ddoethineb,roddodd e ddim mymryn o ddeall iddi.

18. Ond pan mae'n codi a dechrau rhedeg,mae'n chwerthin am ben y ceffyl a'i farchog!

19. Ai ti sy'n rhoi cryfder i geffyl?Ai ti wisgodd ei wddf â'r mwng?

20. Ai ti sy'n gwneud iddo neidio fel y locust,a chreu dychryn wrth weryru?

21. Mae'n curo llawr y dyffryn â'i garnau,ac yn rhuthro'n frwd i'r frwydr.

Darllenwch bennod gyflawn Job 39