Hen Destament

Testament Newydd

Job 38:4-15 beibl.net 2015 (BNET)

4. Ble roeddet ti pan osodais i sylfeini'r ddaear?Ateb fi os wyt ti'n gwybod y cwbl!

5. Pwy benderfynodd beth fyddai ei maint?– ti'n siŵr o fod yn gwybod!Pwy wnaeth ddefnyddio llinyn i'w mesur?

6. Ar beth y gosodwyd ei sylfeini?Pwy osododd ei chonglfaen?

7. Ble oeddet ti pan oedd sêr y bore yn canu gyda'i gilydda holl angylion Duw yn gweiddi'n llawen?

8. Pwy gaeodd y drysau ar y môrwrth iddo arllwys allan o'r groth?

9. Fi roddodd gymylau yn wisg amdano,a'i lapio mewn niwl trwchus.

10. Fi osododd derfyn iddo,a'i gadw tu ôl i ddrysau wedi eu bolltio.

11. Dywedais, ‘Cei di ddod hyd yma, ond dim pellach;dyma lle mae ymchwydd dy donnau yn stopio!’

12. Wyt ti erioed wedi gorchymyn i'r bore ddod,a dangos i'r wawr ble i dorri,

13. a sut i ledu a gafael yn ymylon y ddaear,ac ysgwyd y rhai drwg oddi arni?

14. Mae ei siâp yn dod i'r golwg fel clai dan sêl,a ffurfiau'r tir i'w gweld fel plygion dilledyn.

15. Mae'r golau'n tarfu ar y rhai drwg,ac mae'r fraich sy'n treisio'n cael ei thorri.

Darllenwch bennod gyflawn Job 38