Hen Destament

Testament Newydd

Job 38:35-41 beibl.net 2015 (BNET)

35. Alli di alw ar y mellt i fflachio,a'u cael nhw i ateb ‘Dyma ni’?

36. Pwy sy'n rhoi doethineb i'r galona deall i'r meddwl?

37. Pwy sy'n ddigon clyfar i gyfri'r cymylau?Pwy sy'n gallu arllwys dŵr o gostreli'r awyr

38. a gwneud i'r pridd lifo fel llaid,ac i'r talpiau o bridd lynu wrth ei gilydd?

39. Wyt ti'n gallu hela ysglyfaeth i'r llewes,a rhoi bwyd i'r llewod ifanc

40. sy'n gorwedd yn eu gwâl,neu'n llechu dan y llwyni am helfa?

41. Pwy sy'n rhoi bwyd i'r gigfranpan mae ei chywion yn galw ar Dduwa hithau'n hedfan o gwmpas heb ddim?

Darllenwch bennod gyflawn Job 38