Hen Destament

Testament Newydd

Job 38:25-34 beibl.net 2015 (BNET)

25. Pwy gerfiodd sianelau i'r stormydd glaw,a llwybrau i'r mellt a'r taranau,

26. iddi lawio ar dir lle does neb yn byw,ac anialwch sydd heb unrhyw un yno?

27. Mae'r tir anial sych yn cael ei socian,ac mae glaswellt yn tyfu drosto.

28. Oes tad gan y glaw?Pwy genhedlodd y defnynnau gwlith?

29. O groth pwy y daeth y rhew?Pwy roddodd enedigaeth i'r barrug,

30. pan mae'r dŵr yn troi'n galed,ac wyneb y dyfroedd yn rhewi?

31. Alli di blethu Pleiadesneu ddatod belt Orion?

32. Alli di ddod â'r planedau allan yn eu tymor,neu dywys yr Arth Fawr a'r Arth Fach?

33. Wyt ti'n gyfarwydd â threfn y cosmos,a sut mae'n effeithio ar y ddaear?

34. Alli di roi gorchymyn i'r cymylaui arllwys dŵr ar dy ben fel llif?

Darllenwch bennod gyflawn Job 38