Hen Destament

Testament Newydd

Job 38:14-30 beibl.net 2015 (BNET)

14. Mae ei siâp yn dod i'r golwg fel clai dan sêl,a ffurfiau'r tir i'w gweld fel plygion dilledyn.

15. Mae'r golau'n tarfu ar y rhai drwg,ac mae'r fraich sy'n treisio'n cael ei thorri.

16. Wyt ti wedi bod at y ffynhonnau sy'n llenwi'r môr,neu gerdded mannau dirgel y dyfnder?

17. Ydy giatiau marwolaeth wedi eu dangos i ti?Wyt ti wedi gweld y giatiau i'r tywyllwch dudew?

18. Oes gen ti syniad mor fawr ydy'r ddaear?Os wyt ti'n gwybod hyn i gyd – dywed wrtho i!

19. Pa ffordd mae mynd i ble mae'r golau'n byw?O ble mae'r tywyllwch yn dod?

20. Wyt ti'n gallu dangos ble mae ffiniau'r ddau,a dangos iddyn nhw sut i fynd adre?

21. Mae'n siŵr dy fod, gan dy fod wedi dy eni bryd hynny,ac wedi bod yn fyw ers cymaint o flynyddoedd!

22. Wyt ti wedi bod i mewn i stordai'r eira,neu wedi gweld y storfeydd o genllysg

23. sy'n cael eu cadw ar gyfer y dyddiau anodd,pan mae brwydrau a rhyfeloedd?

24. Sut mae mynd i ble mae'r mellt yn cael eu gwasgaru?O ble daw gwynt y dwyrain i chwythu drwy'r byd?

25. Pwy gerfiodd sianelau i'r stormydd glaw,a llwybrau i'r mellt a'r taranau,

26. iddi lawio ar dir lle does neb yn byw,ac anialwch sydd heb unrhyw un yno?

27. Mae'r tir anial sych yn cael ei socian,ac mae glaswellt yn tyfu drosto.

28. Oes tad gan y glaw?Pwy genhedlodd y defnynnau gwlith?

29. O groth pwy y daeth y rhew?Pwy roddodd enedigaeth i'r barrug,

30. pan mae'r dŵr yn troi'n galed,ac wyneb y dyfroedd yn rhewi?

Darllenwch bennod gyflawn Job 38