10. Fi osododd derfyn iddo,a'i gadw tu ôl i ddrysau wedi eu bolltio.
11. Dywedais, ‘Cei di ddod hyd yma, ond dim pellach;dyma lle mae ymchwydd dy donnau yn stopio!’
12. Wyt ti erioed wedi gorchymyn i'r bore ddod,a dangos i'r wawr ble i dorri,
13. a sut i ledu a gafael yn ymylon y ddaear,ac ysgwyd y rhai drwg oddi arni?
14. Mae ei siâp yn dod i'r golwg fel clai dan sêl,a ffurfiau'r tir i'w gweld fel plygion dilledyn.
15. Mae'r golau'n tarfu ar y rhai drwg,ac mae'r fraich sy'n treisio'n cael ei thorri.
16. Wyt ti wedi bod at y ffynhonnau sy'n llenwi'r môr,neu gerdded mannau dirgel y dyfnder?
17. Ydy giatiau marwolaeth wedi eu dangos i ti?Wyt ti wedi gweld y giatiau i'r tywyllwch dudew?
18. Oes gen ti syniad mor fawr ydy'r ddaear?Os wyt ti'n gwybod hyn i gyd – dywed wrtho i!
19. Pa ffordd mae mynd i ble mae'r golau'n byw?O ble mae'r tywyllwch yn dod?
20. Wyt ti'n gallu dangos ble mae ffiniau'r ddau,a dangos iddyn nhw sut i fynd adre?
21. Mae'n siŵr dy fod, gan dy fod wedi dy eni bryd hynny,ac wedi bod yn fyw ers cymaint o flynyddoedd!
22. Wyt ti wedi bod i mewn i stordai'r eira,neu wedi gweld y storfeydd o genllysg