1. Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud:
2. “Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i,ac yn siarad heb ddeall dim?
3. Torcha dy lewys fel dyn!Gofynna i gwestiynau, a gei di ateb.
4. Ble roeddet ti pan osodais i sylfeini'r ddaear?Ateb fi os wyt ti'n gwybod y cwbl!
5. Pwy benderfynodd beth fyddai ei maint?– ti'n siŵr o fod yn gwybod!Pwy wnaeth ddefnyddio llinyn i'w mesur?
6. Ar beth y gosodwyd ei sylfeini?Pwy osododd ei chonglfaen?
7. Ble oeddet ti pan oedd sêr y bore yn canu gyda'i gilydda holl angylion Duw yn gweiddi'n llawen?
8. Pwy gaeodd y drysau ar y môrwrth iddo arllwys allan o'r groth?
9. Fi roddodd gymylau yn wisg amdano,a'i lapio mewn niwl trwchus.
10. Fi osododd derfyn iddo,a'i gadw tu ôl i ddrysau wedi eu bolltio.
11. Dywedais, ‘Cei di ddod hyd yma, ond dim pellach;dyma lle mae ymchwydd dy donnau yn stopio!’
12. Wyt ti erioed wedi gorchymyn i'r bore ddod,a dangos i'r wawr ble i dorri,
13. a sut i ledu a gafael yn ymylon y ddaear,ac ysgwyd y rhai drwg oddi arni?