Hen Destament

Testament Newydd

Job 37:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ac ydy, mae fy nghalon i'n crynuac yn methu curiad.

2. Gwrandwch ar ei lais yn rhuo,ac ar ei eiriau'n atseinio!

3. Mae ei fellt yn fflachio drwy'r awyr –ac yn mynd i ben draw'r byd.

4. Yna wedyn, mae'n rhuo eto,a'i lais cryf yn taranu;mae'r mellt wedi hen ddiflannu pan glywir ei lais.

5. Mae sŵn llais Duw'n taranu yn rhyfeddol!Ac mae'n gwneud pethau gwyrthiol, tu hwnt i'n deall ni.

6. Mae'n dweud wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear!’neu wrth y glaw trwm, ‘Arllwys i lawr!’

7. Mae'n stopio pawb rhag gweithio,mae pobl yn gorfod sefyll yn segur.

8. Mae anifeiliaid yn mynd i gysgodi,ac i guddio yn eu gwâl.

9. Mae'r corwynt yn codi o'r de,ac oerni o wyntoedd y gogledd.

10. Anadl Duw sy'n dod â rhew,ac mae'r llynnoedd yn rhewi'n galed.

Darllenwch bennod gyflawn Job 37