Hen Destament

Testament Newydd

Job 36:17-30 beibl.net 2015 (BNET)

17. Ond rwyt ti'n wynebu barn Duw ar bobl ddrwg,a does dim dianc rhag ei farn gyfiawn.

18. Gwylia rhag i ti gael dy hudo gan gyfoeth,ac i faint y breib dy arwain ar gyfeiliorn.

19. Fyddai dy holl gyfoeth o unrhyw help yn dy helbul?Na fyddai, na dy holl ddylanwad chwaith!

20. Paid dyheu am y nos,pan mae pobl yn cael eu cipio i ffwrdd.

21. Gwylia rhag troi at y drwg –dyna pam ti'n dioddef ac yn cael dy brofi.

22. Edrych, mae nerth Duw yn aruthrol;Pwy sy'n athro tebyg iddo?

23. Pwy sy'n dweud wrtho beth i'w wneud?Pwy sy'n gallu dweud, ‘Ti wedi gwneud peth drwg’?

24. Cofia mai dy le di ydy canmol ei waith,sef y rheswm mae pobl yn ei foli ar gân.

25. Mae'r ddynoliaeth i gyd wedi gweld ei waith,mae pobl feidrol yn syllu arno o bell.

26. Ydy, mae Duw yn fawr – y tu hwnt i'n deall ni;does dim modd cyfri hyd ei oes e!

27. Mae'n codi dafnau o ddŵrsy'n diferu'n law mân fel tarth.

28. Mae'r cymylau'n tywallt y glaw,mae'n arllwys yn gawodydd ar y ddaear.

29. Oes rhywun yn deall sut mae'r cymylau'n lledu,a'r taranau sydd yn ei bafiliwn?

30. Edrych, mae'r mellt yn lledu o'i gwmpas,ac yn goleuo gwaelod y môr.

Darllenwch bennod gyflawn Job 36