1. A dyma Elihw yn mynd ymlaen i ddweud:
2. “Bydd yn amyneddgar â fi am ychydig,mae gen i fwy i'w ddweud ar ran Duw.
3. Dw i wedi derbyn gwybodaeth o bell,a dw i am ddangos mai fy Nghrëwr sy'n iawn.
4. Wir i ti, heb air o gelwydd,mae'r un sydd o dy flaen di wedi deall y cwbl.
5. Mae Duw yn rymus, ond dydy e ddim yn ddirmygus;mae'n rymus ac yn gwybod beth mae'n ei wneud.
6. Dydy e ddim yn gadael i bobl ddrwg fyw;mae'n sicrhau cyfiawnder i'r rhai sy'n dioddef.
7. Mae e'n gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.Mae'n eu hanrhydeddu nhw,a'u gosod ar orseddau fel brenhinoedd.
8. Ond os ydyn nhw'n gaeth mewn cyffion,wedi eu rhwymo â rhwydi gorthrwm,
9. mae e'n dangos iddyn nhw beth wnaethon nhwi droseddu, a bod mor haerllug.
10. Mae e'n gwneud iddyn nhw wrando drwy eu disgyblu,a dweud wrthyn nhw am droi cefn ar eu drygioni.