Hen Destament

Testament Newydd

Job 35:3-13 beibl.net 2015 (BNET)

3. A dweud wrtho, ‘Pa fantais ydy e i ti?’a ‘Beth ydw i'n ennill o beidio pechu?’

4. Gad i mi dy ateb di –ti, a dy ffrindiau gyda ti.

5. Edrych i fyny i'r awyr, ac ystyria;Edrych ar y cymylau ymhell uwch dy ben.

6. Os wyt ti'n pechu, sut mae hynny'n effeithio ar Dduw?Os wyt ti'n troseddu dro ar ôl tro,beth wyt ti'n ei wneud iddo fe?

7. Os wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn,sut mae hynny'n helpu Duw?Beth mae e'n ei dderbyn gen ti?

8. Pobl eraill sy'n diodde pan wyt ti'n gwneud drwg,neu'n cael eu helpu pan wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn.

9. Mae pobl sy'n cael eu gorthrymu yn gweiddi am help,ac yn galw am rywun i'w hachub o afael y rhai pwerus.

10. Ond does neb yn dweud, ‘Ble mae Duw, fy Nghrëwr,sy'n rhoi testun cân i mi pan mae'n nos dywyll?

11. Ble mae'r Duw sy'n dysgu mwy i ni na'r anifeiliaid,ac sy'n ein gwneud ni'n fwy doeth na'r adar?’

12. Ydyn, mae'r bobl yn gweiddi, ond dydy e ddim yn ateb,am eu bod nhw'n bobl ddrwg a balch.

13. Dŷn nhw ddim o ddifrif – a dydy Duw ddim yn gwrando;dydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cymryd dim sylw.

Darllenwch bennod gyflawn Job 35