Hen Destament

Testament Newydd

Job 34:24-36 beibl.net 2015 (BNET)

24. Mae'n dryllio arweinwyr heb gynnal ymchwiliad,ac yn gosod eraill i gymryd eu lle.

25. Am ei fod yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud,mae'n eu dymchwel dros nos, a'u dryllio.

26. Mae'n eu taro nhw i lawr fel pobl ddrwg,ac yn gwneud hynny o flaen pawb,

27. am eu bod nhw wedi bod yn anffyddlon iddo,a gwrthod cymryd sylw o'i ffyrdd.

28. Maen nhw wedi achosi i'r tlodion alw arno,a gwneud iddo wrando ar gri'r anghenus.

29. Os ydy Duw'n cadw'n dawel, pwy sydd i'w feirniadu?Os ydy e'n cuddio, pwy all ddod o hyd iddo?Ond mae e'n dal i wylio dros wledydd a dynoliaeth,

30. rhag i rywun annuwiol deyrnasua gosod maglau i'r bobl.

31. Ond os dywed rhywun wrth Dduw,‘Dw i'n euog, a wna i ddim troseddu eto.

32. Dysga fi am y drwg dw i ddim yn ei weld.Os dw i wedi gwneud drwg, wna i ddim yr un peth eto.’

33. Wyt ti'n credu y dylai Duw dalu'n ôl iddo,gan dy fod yn gwrthod gwrando?Ti sydd i ddewis, nid fi;Gad i ni glywed beth sydd gen ti i'w ddweud.

34. Bydd dynion deallus yn dweud wrtho i– unrhyw ddyn doeth sy'n gwrando arna i –

35. ‘Mae Job wedi dweud pethau dwl;dydy ei eiriau'n gwneud dim sens.’

36. Dylai gael ei gosbi i'r eithafam siarad fel mae pobl ddrwg yn siarad.

Darllenwch bennod gyflawn Job 34