17. i beidio gwneud rhywbeth,a'u stopio nhw rhag bod mor falch.
18. Mae'n achub bywyd rhywun o bwll y bedd,rhag iddo groesi afon marwolaeth.
19. Mae'n disgyblu un sy'n sâl yn ei welya chryndod di-baid drwy ei esgyrn.
20. Mae bwyd yn codi cyfog arno;does ganddo awydd dim byd blasus.
21. Mae wedi colli cymaint o bwysau,nes bod ei esgyrn i gyd yn y golwg.
22. Mae'n agos iawn at y bedd,bron â'i gipio gan negeswyr marwolaeth.
23. Ond os daw angel at ei ochr(dim ond un o'i blaid, un o blith y mil)i ddadlau ei hawl drosto –
24. yna bydd Duw yn drugarog wrtho.‘Achubwch e rhag mynd i lawr i'r bedd;dw i wedi cael y pris i'w ollwng yn rhydd.’
25. Yna bydd ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc;bydd ei egni yn ôl fel yn nyddiau ieuenctid!
26. Bydd yn gweddïo, a bydd Duw'n gwrando;bydd yn gweiddi'n llawen wrth fynd i'w bresenoldeb,a bydd Duw yn ei adfer i berthynas iawn ag e'i hun.
27. Bydd yn canu o flaen pobl,‘Pechais, a gwneud y peth anghywir,ond ches i mo'r gosb o'n i'n ei haeddu.
28. Mae e wedi fy achub o afael y bedd;dw i'n dal yn fyw, ac yn gweld y golau!’
29. Yn wir, mae Duw yn gwneud hyndrosodd a throsodd:
30. achub bywyd o bwll y bedd,iddo gael gweld goleuni bywyd.
31. Edrych, Job, gwranda arna i;gwrando'n dawel i mi gael siarad.
32. Os oes gen ti rywbeth i'w ddweud, ateb fi;dywed, achos dw i eisiau dangos dy fod ti'n iawn.
33. Ond os oes gen ti ddim i'w ddweud, gwranda arna i;gwrando'n dawel, ac fe ddysga i beth sy'n ddoeth i ti.”