Hen Destament

Testament Newydd

Job 33:15-26 beibl.net 2015 (BNET)

15. Mewn breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos,pan mae pobl yn cysgu'n drwm;pan maen nhw'n gorwedd ar eu gwlâu.

16. Mae e'n gwneud i bobl wrando –yn eu dychryn nhw gyda rhybudd

17. i beidio gwneud rhywbeth,a'u stopio nhw rhag bod mor falch.

18. Mae'n achub bywyd rhywun o bwll y bedd,rhag iddo groesi afon marwolaeth.

19. Mae'n disgyblu un sy'n sâl yn ei welya chryndod di-baid drwy ei esgyrn.

20. Mae bwyd yn codi cyfog arno;does ganddo awydd dim byd blasus.

21. Mae wedi colli cymaint o bwysau,nes bod ei esgyrn i gyd yn y golwg.

22. Mae'n agos iawn at y bedd,bron â'i gipio gan negeswyr marwolaeth.

23. Ond os daw angel at ei ochr(dim ond un o'i blaid, un o blith y mil)i ddadlau ei hawl drosto –

24. yna bydd Duw yn drugarog wrtho.‘Achubwch e rhag mynd i lawr i'r bedd;dw i wedi cael y pris i'w ollwng yn rhydd.’

25. Yna bydd ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc;bydd ei egni yn ôl fel yn nyddiau ieuenctid!

26. Bydd yn gweddïo, a bydd Duw'n gwrando;bydd yn gweiddi'n llawen wrth fynd i'w bresenoldeb,a bydd Duw yn ei adfer i berthynas iawn ag e'i hun.

Darllenwch bennod gyflawn Job 33