Hen Destament

Testament Newydd

Job 32:4-15 beibl.net 2015 (BNET)

4. Roedd Elihw wedi cadw'n dawel tra roedden nhw'n siarad gyda Job, am eu bod nhw'n hŷn nag e.

5. Ond pan welodd Elihw nad oedd y tri yn gallu ateb Job, roedd e wedi gwylltio'n lân.

6. Yna dyma Elihw fab Barachel o deulu Bws yn dweud fel hyn:“Dyn ifanc dw i, a chi i gyd yn hen;felly dw i wedi bod yn cadw'n dawelac yn rhy swil i ddweud be dw i'n feddwl.

7. Dywedais wrthof fy hun, ‘Gad i'r dynion hŷn siarad;rho gyfle i'r rhai sydd a phrofiad blynyddoedd lawer i ddangos doethineb.’

8. Ond Ysbryd Duw yn rhywun,anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n gwneud iddo ddeall.

9. Nid dim ond pobl mewn oed sy'n ddoeth,does dim rhaid bod yn hen i farnu beth sy'n iawn.

10. Felly dw i'n dweud, ‘Gwrandwch arna i,a gadewch i mi ddweud be dw i'n feddwl.’

11. Dw i wedi bod yn disgwyl i chi orffen siarad,ac yn gwrando'n ofalus ar eich dadleuon chi,wrth i chi drafod y pethau hyn.

12. Ond mae'n gwbl amlwg i mifod dim un ohonoch chi'n gallu ateb Job,a gwrthbrofi'r hyn mae wedi ei ddweud.

13. A peidiwch dweud, ‘Y peth doeth i'w wneud ydy hyn –Gadael i Dduw ei geryddu, nid dyn!’

14. Dydy Job ddim wedi dadlau gyda fi eto,a dw i ddim yn mynd i'w ateb gyda'ch dadleuon chi.

15. Mae'r tri yma mewn sioc, heb ateb bellach;does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i'w ddweud.

Darllenwch bennod gyflawn Job 32