Hen Destament

Testament Newydd

Job 31:24-37 beibl.net 2015 (BNET)

24. Ydw i wedi rhoi fy hyder mewn aur,a theimlo'n saff am fod gen i aur coeth?

25. Wnes i orfoleddu yn y cyfoeth,a'r holl feddiannau oedd gen i?

26. Wnes i edrych ar yr haul yn tywynnu,a'r lleuad yn symud yn ei ysblander,

27. nes i'm calon gael ei hudo'n dawel fach,a'm llaw yn taflu cusan i'w haddoli?

28. Byddai hynny hefyd yn bechod i'w gosbi –byddwn wedi gwadu'r Duw sydd uchod.

29. Oeddwn i'n falch pan oedd fy ngelyn mewn helynt,neu'n cael gwefr o weld pethau'n ddrwg arno?

30. Na, wnes i ddweud dim yn ei erbynna'i felltithio yn y gobaith y byddai'n marw.

31. Oes unrhyw un o'm teulu wedi dweud,‘Pam gafodd hwn a hwn ddim croeso wrth fwrdd Job’?

32. Doedd dim rhaid i'r crwydryn gysgu allan ar y stryd,am fod fy nrws yn agored i deithwyr.

33. Ydw i wedi ceisio cuddio fy meiau fel Adda,neu gladdu fy mhechod dan fy mantell,

34. am fod gen i ofn barn y dyrfa,a dirmyg pawb o'm cwmpas?– cadw'n dawel a dewis peidio mynd allan.

35. O na fyddai gen i rywun i wrando arna i!Dw i'n llofnodi f'amddiffyniad!Boed i'r Un sy'n rheoli popeth fy ateb!Boed i'r un sy'n cyhuddo ddod â gwŷs ddilys yn fy erbyn!

36. Byddwn i'n ei chario'n gyhoeddus,a'i gwisgo fel coron ar fy mhen.

37. Byddwn yn rhoi cyfrif iddo am bob cam,ac yn camu o'i flaen yn hyderus fel tywysog.

Darllenwch bennod gyflawn Job 31