Hen Destament

Testament Newydd

Job 31:19-32 beibl.net 2015 (BNET)

19. Wnes i erioed adael neb yn rhewi heb ddillad,na gadael rhywun tlawd heb got.

20. Bydden nhw'n diolch i mi o waelod calonwrth i wlân fy nefaid eu cadw'n gynnes.

21. Os gwnes i fygwth yr amddifad,wrth weld fod gen i gefnogaeth yn y llys,

22. yna boed i'm hysgwydd gael ei thynnu o'i lle,a'm braich gael ei thorri wrth y penelin.

23. Roedd gen i ofn i Dduw anfon dinistr;allwn i byth wynebu ei fawredd!

24. Ydw i wedi rhoi fy hyder mewn aur,a theimlo'n saff am fod gen i aur coeth?

25. Wnes i orfoleddu yn y cyfoeth,a'r holl feddiannau oedd gen i?

26. Wnes i edrych ar yr haul yn tywynnu,a'r lleuad yn symud yn ei ysblander,

27. nes i'm calon gael ei hudo'n dawel fach,a'm llaw yn taflu cusan i'w haddoli?

28. Byddai hynny hefyd yn bechod i'w gosbi –byddwn wedi gwadu'r Duw sydd uchod.

29. Oeddwn i'n falch pan oedd fy ngelyn mewn helynt,neu'n cael gwefr o weld pethau'n ddrwg arno?

30. Na, wnes i ddweud dim yn ei erbynna'i felltithio yn y gobaith y byddai'n marw.

31. Oes unrhyw un o'm teulu wedi dweud,‘Pam gafodd hwn a hwn ddim croeso wrth fwrdd Job’?

32. Doedd dim rhaid i'r crwydryn gysgu allan ar y stryd,am fod fy nrws yn agored i deithwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Job 31