Hen Destament

Testament Newydd

Job 31:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i wedi ymrwymoi beidio llygadu merch ifanc.

2. Beth fyddai rhywun felly'n ei dderbyn gan Dduw?Beth fyddai'n ei gael gan yr Un uchod sy'n rheoli popeth?

3. Onid i'r annuwiol mae dinistr yn cael ei roi,a thrychineb i'r un sy'n gwneud drwg?

4. Ydy e ddim wedi gweld sut dw i wedi byw?Ydy e ddim wedi gwylio pob cam?

5. Ydw i wedi cymysgu gyda'r rhai celwyddog?Neu wedi bod yn rhy barod i dwyllo?

6. Dylai fy mhwyso i ar glorian sy'n gywir,iddo weld fy mod i'n gwbl ddieuog.

7. Os ydw i wedi crwydro o'i ffyrdda gadael i'm llygaid ddenu'r galon,neu os oes staen drygioni ar fy nwylo,

8. yna boed i eraill fwyta'r cynhaeaf wnes i ei hau,ac i'r cnwd a blennais gael ei ddinistrio!

9. Os cafodd fy nghalon ei hudo gan wraig rhywun arall,a minnau'n dechrau loetran wrth ddrws ei thÅ·,

10. boed i'm gwraig i falu blawd i ddyn arall,a boed i ddynion eraill orwedd gyda hi!

11. Am i mi wneud peth mor ffiaidd –pechod sy'n haeddu ei gosbi.

12. Mae fel tân sy'n dinistrio'n llwyr,ac yn llosgi fy eiddo i gyd.

13. Ydw i wedi diystyru cwyn caethwasneu forwyn yn fy erbyn erioed?

14. Beth wnawn i pe byddai Duw yn codii edrych ar y mater? Sut fyddwn i'n ei ateb?

15. Onid Duw greodd nhw, fel fi, yn y groth?Onid yr un Duw sy wedi'n gwneud ni i gyd?

Darllenwch bennod gyflawn Job 31