Hen Destament

Testament Newydd

Job 30:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ond bellach mae hogiau ifancyn gwenu'n wawdlyd arna i;rhai y byddwn i'n rhoi mwy o sylwi'm cŵn defaid nag i'w tadau nhw!

2. Dynion rhy wan i fod o iws i mi –dynion wedi colli pob cryfder.

3. Dynion sy'n denau o angen a newyn,yn crwydro'r tir sych,a'r diffeithwch anial yn y nos.

4. Maen nhw'n casglu planhigion gwyllt,a gwreiddiau'r banadl i gadw'n gynnes.

5. Dynion wedi eu gyrru allan o gymdeithas,a pobl yn gweiddi arnyn nhw fel lladron.

6. Maen nhw'n byw ar waelod ceunentydd,mewn tyllau yn y ddaear ac ogofâu.

7. Maen nhw'n brefu fel anifeiliaid yng nghanol y chwyn,ac yn swatio gyda'i gilydd dan y llwyni.

8. Pobl ddwl a da i ddim,wedi eu gyrru i ffwrdd o gymdeithas.

9. Ond bellach dw i'n gocyn hitio iddyn nhw;ac yn ddim byd ond testun sbort.

10. Maen nhw'n fy ffieiddio i, ac yn cadw draw oddi wrtho i;ac yn poeri'n fy wyneb heb feddwl ddwywaith.

Darllenwch bennod gyflawn Job 30