Hen Destament

Testament Newydd

Job 3:18-24 beibl.net 2015 (BNET)

18. Mae caethion yn cael ymlacio'n llwyr,heb lais y meistri gwaith yn gweiddi.

19. Mae pobl fawr a chyffredin yno fel ei gilydd,a'r caethwas yn rhydd rhag ei feistr.

20. Pam mae Duw'n rhoi golau i'r un sy'n dioddef,a bywyd i'r rhai sy'n chwerw eu hysbryd?

21. Maen nhw'n ysu am gael marw, ond yn methu –yn chwilio am hynny yn fwy na thrysor cudd.

22. Maen nhw'n hapus, ac yn dathlu'n llawenpan maen nhw'n cyrraedd y bedd.

23. Pam rhoi bywyd i berson heb bwrpas,a'i gau i mewn rhag dianc o'i drybini?

24. Yn lle bwyta dw i'n gwneud dim ond ochneidio;dw i'n griddfan ac yn beichio crïo.

Darllenwch bennod gyflawn Job 3