Hen Destament

Testament Newydd

Job 3:14-26 beibl.net 2015 (BNET)

14. gyda brenhinoedd a'u cynghorwyr,y rhai fu'n codi palasau sydd bellach yn adfeilion;

15. gydag arweinwyr oedd â digon o aur,ac wedi llenwi eu tai ag arian.

16. Pam na ches i fy nghuddio fel erthyl marw,neu fabi wnaeth ddim gweld y golau?

17. Yn y bedd mae holl brysurdeb pobl ddrwg wedi peidio,a'r gweithwyr oedd dan orthrwm yn cael gorffwys.

18. Mae caethion yn cael ymlacio'n llwyr,heb lais y meistri gwaith yn gweiddi.

19. Mae pobl fawr a chyffredin yno fel ei gilydd,a'r caethwas yn rhydd rhag ei feistr.

20. Pam mae Duw'n rhoi golau i'r un sy'n dioddef,a bywyd i'r rhai sy'n chwerw eu hysbryd?

21. Maen nhw'n ysu am gael marw, ond yn methu –yn chwilio am hynny yn fwy na thrysor cudd.

22. Maen nhw'n hapus, ac yn dathlu'n llawenpan maen nhw'n cyrraedd y bedd.

23. Pam rhoi bywyd i berson heb bwrpas,a'i gau i mewn rhag dianc o'i drybini?

24. Yn lle bwyta dw i'n gwneud dim ond ochneidio;dw i'n griddfan ac yn beichio crïo.

25. Mae'r hyn oeddwn yn ei ofni wedi digwydd;yr hyn oedd yn peri arswyd wedi dod yn wir.

26. Does gen i ddim llonydd, dim heddwch,dim gorffwys – dim ond trafferthion.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 3