Hen Destament

Testament Newydd

Job 29:5-15 beibl.net 2015 (BNET)

5. Roedd yr Un sy'n rheoli popeth gyda mi bryd hynny,a'm plant i gyd o'm cwmpas i.

6. Ro'n i'n byw yn fras – ar ben fy nigon,roedd ffrydiau o olew yn llifo rhwng y meini.

7. Ro'n i'n cerdded drwy giât y ddinas,ac yn eistedd ar y cyngor yn y sgwâr.

8. Roedd dynion ifanc yn camu o'r ffordd i mi,a'r dynion hŷn yn codi ar eu traed.

9. Roedd yr arweinwyr yn dal eu tafod,ac yn rhoi eu llaw dros eu cegau.

10. Roedd y swyddogion yn cadw'n dawel,fel petai eu tafod wedi glynu wrth dop y geg.

11. Roedd pawb oedd yn gwrando arna i yn canmol,a phawb oedd yn fy ngweld yn siarad yn dda,

12. am fy mod i'n achub y tlawd oedd yn galw am help,a'r plentyn amddifad oedd heb neb i'w helpu.

13. Roedd pobl oedd bron wedi marw yn fy mendithio,ac roeddwn i'n gwneud i'r weddw ganu'n llawen.

14. Roedd cyfiawnder fel gwisg amdana i,a thegwch fel mantell a thwrban.

15. Ro'n i'n llygaid i'r dallac yn draed i'r cloff.

Darllenwch bennod gyflawn Job 29